Lleoliad: Ar-lein
Dyddiad: Dydd Mawrth, 23 Ebrill 2024
Amser:
09.00 -
09.18
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Heledd Fychan AS Jane Hutt AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Lisa Griffiths, Clerc Gweithdrefnau Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Blaenoriaethau
Economaidd Ein dyfodol economaidd (30 45
munud)
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth: Blaenoriaethau
Trafnidiaeth Blaenoriaethau ar gyfer Trafnidiaeth: Gwrando,
partneriaeth, gwneud newid (30 45 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynigion i newid aelodau Llafur a Cheidwadol ar nifer o bwyllgorau, i'w hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth. Felly, cytunwyd ar y newid ychwanegol a ganlyn i agenda dydd Mawrth:
Gofynnodd Heledd Fychan i’r Prif Weinidog wneud datganiad llafar i egluro’r sefyllfa mewn perthynas â rhoddion i’w ymgyrch arweinyddiaeth a benthyciadau a wnaed gan Fanc Datblygu Cymru. Cydnabu y Trefnydd y cais.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
·
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 10 munud)
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd hi’n cyhoeddi canlyniad y balot diweddaraf ar gyfer Bil Aelod ar ddechrau’r Cyfarfod Llawn ddydd Mercher.
Gofynnodd Heledd Fychan pam fod y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar berfformiad Dŵr Cymru wedi’i hamserlennu am 30 munud, yn lle’r 60 munud arferol. Cadarnhaodd y Llywydd fod hyn ar gais y Pwyllgor ond y byddai hi’n ystyried ymestyn y ddadl os bydd nifer fawr o geisiadau i siarad.
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud):
o Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 1
o Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dioddefwyr a Charcharorion – cynnig 2
Dydd Mawrth 7 Mai 2024
· Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio ar y cyd i ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy (30 munud)
· Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024 (5 munud)
· Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 (15 munud)
Holodd Heledd Fychan a oedd yn fwriad gan y Llywodraeth i ychwanegu busnes pellach ar gyfer yr wythnosau i ddod. Dywedodd y Trefnydd mai ei bwriad yw rhoi rhagor o fanylion yn yr amserlen yn y dyfodol.
Gofynnodd Darren Millar fod yr amseriad rhagosodedig ar gyfer datganiadau’r Llywodraeth yn cael ei ddychwelyd i 45 munud. Nododd y Trefnydd y cais a chytunodd i’r newid a ganlyn ar gyfer 7 Mai:
·
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet
dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Gweithio ar y cyd i
ddarparu mwy o gartrefi fforddiadwy (30 45
munud)
O ganlyniad i’r ffaith nad oedd unrhyw gynigion arfaethedig wedi’u cyflwyno ar gyfer Dadl yr Aelod a drefnwyd ar gyfer 8 Mai, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i Amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y Tair Wythnos nesaf:
Dydd Mercher 1 Mai 2024 -
Dydd Mercher 8 Mai 2024 –
Trefnwyd yr eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 15 Mai 2024 –
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Heb lais: Taith menywod drwy ganser gynaecolegol. (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil, ac i ddychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes feini prawf arfaethedig i helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ar yr amserlenni ar gyfer Biliau pan ofynnir am gyfnod craffu cyflym.
Gofynnodd Darren Millar am gael cynnwys ystyriaeth ychwanegol mewn perthynas ag a oedd y Bil dan sylw yn cynnwys darpariaethau a allai fod yn ddadleuol.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried yr ychwanegiad arfaethedig drwy e-bost ac, yn amodol ar ei gytuno, i fabwysiadu’r meini prawf i’w defnyddio yn y dyfodol pan fyddai’n cael ceisiadau i gytuno ar amserlen gyflym ar gyfer craffu ar Fil.